top of page
Search

Bwyd i Fynd Iach

Dydd Mercher 20fed a 27ain Mawrth:


Gan barhau â’n partneriaeth â Cultivate, cynhaliom ddau ddosbarth coginio ‘Bwyd i Fynd Iach’ gyda’r nod o annog bwyta’n iach a datblygu sgiliau coginio ymhlith pobl ifanc. Daeth nifer i’r sesiynau hyn a buont yn llwyddiannus iawn.




Roedd y bobl ifanc wrth eu boddau yn cymryd rhan ym mhob agwedd o’r sesiynau, gan gynnwys torri amrywiaeth o lysiau, cymysgu a choginio’r cynhwysion, ac yn bwysicaf … profi blas! Roedd sgyrsiau am bwysigrwydd defnyddio cynhwysion ffres yn hollbwysig drwy gydol y broses, a rhannwyd awgrymiadau coginio a thriciau hefyd.


Roedd e’n arddechog i weld pawb yn rhoi cynnig a chreu prydau blasus i gymryd adref!

0 views0 comments

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page