Yn galw ar bob rhedwr brwd. Oes gennych chi Farathon Llundain 2025 yn eich golwg?
Eisiau ymgymryd ag her aruthrol dros achos sy’n agos at eich calon? Wedi ysu ers talwm i daclo un o farathonau mwyaf eiconig y byd? Neu yw ‘rhedeg marathon’ yn un o’ch uchelgeisiau bywyd?
Pa beth bynnag yw eich rheswm dros eisiau cyfranogi, byddem wrth ein boddau clywed oddi wrthoch! Dim ond rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais (dolen isod) a dweud wrthon ni pam y dylech chi wisgo ein crys ar y diwrnod.
I gael rhedeg ar ein rhan, bydd rhaid i chi godi lleiafswm o £2,000. Os gallwch godi’n fwy na hynny – bendigedig! Efallai bod y targed hwnnw yn codi bach o ofn arnoch, ond cewch lawer o gymorth gan y tîm Ailddeffro. Os rhedwch chi ar ein rhain, byddwch chi’n derbyn:
cymorth gan ein tîm i helpu chi cyrraedd eich targed codi arian;
crys rhedeg yn rhad ac am ddim i chi wisgo ar ddiwrnod rasio;
cymorth hysbysebu a brwdfrydedd gan ein tîm cyfan
Dyddiad Marathon Llundain TCS Dydd Sul 27ain Ebrill 2025
Wedi sicrhau lle yn barod? Mae dal i fod mod di chi rhedeg dros Ailddeffro a derbyn yr un gymorth a help a’r rhai sydd â lle elusennol.
I gyflwyno cais, plîs llenwch y ffurflen hon: Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r broses, cysylltwch ag Ailddeffro ar 01686 722222 neu hello@rekindle.org.uk
Comments