top of page

Cymorth Un-i-Un

"Mae angen cymorth ar ffrind, dywedais wrthyn nhw i ddod fan hyn yn syth, gan fod chi wir yn helpu"

AdobeStock_445420506.jpeg

Hawliwch gymorth wedi’i bersonoli er mwyn i chi daclo heriau bywyd. Yn Ail-ddeffro, gallwch fagu hyder ac ymddiriedaeth, dysgu sgiliau newydd, a datblygu strategaethau ymdopi. Gweithiwn ni gyda chi i osod a chyflawni nodau personol a gallwn weithio gyda sefydliadau eraill os dymunwch.

​

Gwnawn gynnig clust i wrando a byddwn yn gefn i chi trwy heriau bywyd. Gallwn weithio ar eich rhediad chi, pan fydd yr angen mwyaf arnoch, a chynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl sy’n addas i chi. Na fydd rhaid derbyn yr holl gymorth ar yr un pryd, a gallwch ddychwelyd yn nes ymlaen os bydd hynny’n fwy addas i chi.

​

Sut yr ydym wedi helpu pobl ifanc yn y gorffennol:

  • Symud tÅ· – symud i’ch tÅ· cyntaf, dod o hyd i ddodrefn i’r gartref, adleoli a dod o hyd i le diogel i fyw, gwella cyfathrebiad â landlordiaid, swyddogion tai, a chymdogion.

  • Cyllideb – cynllunio cyllideb, budd-daliadau, rheoli dyled a gwella sgorau credyd.

  • Gyrru – gwneud cais am drwydded yrru a dod o hyd i yswiriant car addas.

  • Iechyd – mynd gyda nhw i’r meddyg teulu ac apwyntiadau iechyd eraill os bydd angen, bod yn llais dros gymorth. Cofrestru gyda gwasanaethau lleol e.e. meddygfa, deintyddfa, gampfa.

  • Perthnasoedd – ffrindiau, teulu, bod yn rhiant.

  • Cyflogaeth – ysgrifennu CV a cheisiadau swyddi, prentisiaethau, a hyfforddiant.

  • Addysg – gwneud cais am goleg neu brifysgol a chyllideb fyfyrwyr.

  • Adeiladu - hunanhyder, hunanofal, sgiliau bywyd, gwydnwch, a mwy!

Sut i dderbyn help oddi wrth Ail-ddeffro

 

Gallwch hunangyfeirio i Ail-ddeffro trwy lenwi ein ffurflen gyfeirio ddiogel ar-lein. Gall atgyfeiriad cael ei wneud ar eich rhan gan ffrind, aelod teulu, neu weithiwr proffesiynol sydd gan ganiatâd gennych.

 

Hefyd, mae croeso i chi cysylltu â’r tîm yn Ail-ddeffro trwy ymweld â’n safle yn y Drenewydd yn ystod ein horiau galw heibio, ffonio ni ar 01686 722222, neu e-bostio ni ar help@rekindle.org.uk.

 

Cynhelir apwyntiadau ar ein safle yn y Drenewydd, ond bydd cymorth ar gael ar ffôn neu alwad fideo os bydd well gennych.

bottom of page