top of page
Search

“Lleoliad myfyriwr wedi dod â heulwen at fy mywyd”

Writer's picture: RekindleRekindle

Ein cwnselydd myfyriwr, Ben Payne, sy’n sôn am sut wahaniaeth wedi dod o ganlyniad ei waith gyda ni.


"Incredibly grateful" are the words that come to mind when I think of my student placement at Rekindle. 

 

“Hynod o ddiolchgar” yw’r geiriau sy’n dod i’m meddwl wrth ystyried fy lleoliad myfyriwr yn Ailddeffro.


Rwyf wedi bod wrth fy modd â chwnsela trwy gydol fy hyfforddiant, ac mae’r angerdd hwn wedi parhau i ddyfnhau yn ystod fy nghyfnod fan hyn.


Rwy’n cofio’n glir y cyflwyniad a roddwyd gan Ailddeffro yng Ngrŵp Colegau Amwythig wrth iddyn nhw chwilio am fyfyrwyr.


O fewn ychydig eiliadau, ges i fy nal – nid yn unig gan fy nyhead dros wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl pobl ifanc, ond hefyd gan yr angerdd a ddiferodd oddi wrth y siaradwyr.


Dilynodd cyfweliad i atgyfnerthu’r ffaith am wych o le yw Ailddeffro ac, yn fuan ar ôl, cyrhaeddodd diwrnod fy apwyntiad cleient cyntaf.


Wrth reswm, bues i’n nerfus dros ben, ond buodd pawb yn Ailddeffro yn hynod o gefnogol. Mae’r gefnogaeth a chynhesrwydd hyn wedi parhau wrth i mi ennill 100+ awr o brofiad er mwyn ymgymhwyso’r haf nesaf. Ni fedra i eirio’n ddigon faint fy mod i’n edrych ymlaen at ddod i mewn bob wythnos o ganlyniad.


Yn fy marn i, bydd diwylliant y gweithle’n dibynnu’n llwyr ar ei bobl, ac maen nhw ymysg y rhai mwyaf annwyl fy mod i wedi’i cwrdd erioed - gan ddangos diddordeb bob tro, yn garedig, ac yn wych i fod o’u cwmpas. Mae’r amgylchedd hon yn fy ngalluogi i deimlo’n bresennol a chytûn â’m cleientiaid, gan gerdded wrth eu hochr a chynnig y gefnogaeth orau bosibl.


Mae cwnsela’n teimlo’n hynod o wobrwyol ac wedi dod yn ffordd o fodoli i mi. Rwy’n hyfforddi yn Therapi Person-Ganolog (PCT), a dyma ddyfyniad gan Carl Rogers, a ddyfeisiodd PCT, sy’n crynhoi’r cyfan i mi:


“Mae pobl mor rhyfeddol â’r machlud os fedraf adael iddyn nhw fod. Wrth edrych ar fachlud yr haul, na fydda i’n dweud, ‘Meddalwch y lliw oren ychydig yn y cornel ochr dde, a rhowch ychydig mwy o biws ar y gwaelod, a defnyddiwch ychydig mwy o binc i liwio’r cymylau.’ Na wnaf hynny. Ni cheisiaf reoli’r machlud. Mi fydda i’n ei wylio gan ryfeddu wrth iddo ddatblygu.”


Mae wedi bod yn brofiad arbennig, a fydd yn aros gyda fi am byth, i wylio trawsnewidiad pobl ifanc yn ystod fy nghyfnod yn Ailddeffro. Serch hynny, hoffwn ychwanegu at ddyfyniad Rogers er mwyn disgrifio fy nghyfnod o weithio gyda phawb yn Ailddeffro. Mae o’n sôn am y machlud, a dwedwn i fod fy mhrofiad i fan hyn wedi dod ag heulwen at fy mywyd yn ogystal ag at y rhai eraill. Diolch o galon i bawb fy mod i wedi’i gwrdd hyd yn hyn.




Ben ad Judith standing outside the Rekindle office
Counsellor volunteers at Rekindle

A huge thank you to everyone I have met so far. 

1 view0 comments

Yorumlar


Yorumlara kapatıldı.
bottom of page