Hysbysiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Ailddeffro
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.rekindle.org.uk.
​
Nod y wefan hon yw sicrhau hygyrchedd ei chynnwys a gwasanaethau ar gyfer unigolion ag anableddau sydd angen cymorth mynediad ychwanegol.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar sut i wella eich profiad ar eich dyfais os oes gennych chi anabledd.
Mesurau i gefnogi hygyrchedd
​
Cymera’r wefan hon y mesurau canlynol i sicrhau hygyrchedd:
-
Cynnwys hygyrchedd fel rhan o’n datganiad cenhadaeth.
-
Cynnwys hygyrchedd trwy ein polisïau mewnol i gyd.
-
Integreiddio hygyrchedd yn ein hymarfer caffael.
Statws Cydymffurfio
​
Diffinia’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan (WCAG) gofynion er mwyn i ddylunwyr a datblygwyr gwella hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau. Mae’r Canllawiau yn diffinio tri lefel cydymffurfio: Lefel A, Lefel AA, a Lefel AAA. Mae’r wefan hon yn anelu at gydymffurfio â WCAG 2.1 lefel AA.
Ymdrechion Hygyrchedd & Ymwadiad
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig at wella parhaus hygyrchedd y wefan a’i gwasanaethau. Sylfaenir yr ymrwymiad hwn ar y cred mai cyfrifoldeb moesegol rhanedig yw sicrhau profiad llyfn, cynhwysol nad a gyfyngir ar gyfer unigolion ag anableddau.
Er rydym o hyd yn ymdrechu tuag at wella hygyrchedd pob tudalen ac adnodd ar ein gwefan, mae’n bosibl na fydd ambell ddarn cynnwys wedi cael ei alinio’n llawn gyda safonau hygyrchedd. Gellir priodoli’r sefyllfa hon at y ffaith nad ydym eto wedi dod o hyd i’r datrysiad mwyaf addas er mwyn gwella profiad defnyddiwr.
Adrodd Problemau Hygyrchedd ar y Wefan Hon
Rydym o hyd yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwefan. Os byddwch yn dod ar draws cynnwys nad yw’n hygyrch i chi, yna mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod a byddwn yn darparu ffurf amgen hygyrch.
Michele Humberstone / hello@rekindle.org.uk / 01686 722222
Rydym yn anelu at ymateb i unrhyw adborth a dderbyniwn o fewn cyfnod addas (os bydd cais am ymateb).
Os na fyddwch yn fodlon gyda sut ymatebon ni i’r broblem a godwyd gennych ynglÅ·n â hygyrchedd ein gwefan, yna gysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) cyfrifoldeb dros sicrhau bod gwefannau yn bodloni safonau hygyrchedd.
​
Cynnwys a Nodweddion Trydydd-Parti
​
Rydym yn defnyddio adnoddau trydydd-parti sy’n mewnblannu cynnwys oddi fewn ein gwefan. Byddwn yn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cydymffurfio pa le bynnag bod modd.
​
Gwybodaeth Dechnegol am Hygyrchedd y Wefan Hon
Ymrwyma’n sefydliad at sicrhau bod ei wefan yn hygyrch i bob ymwelwr yn ôl rheoliadau rhanbarthol ac rydym yn anelu at gydymffurfiaeth â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan (WCAG) 2.1 ar lefel AA.
​
Manylebau Technegol
​
Dibynna’r wefan hon ar y dechnoleg ganlynol er mwyn gweithio gyda’r cyfuniad penodol o borwyr gwe ac unrhyw dechnegol cynorthwyol neu ategion sydd wedi’i mewnosod ar eich cyfrifiadur.
-
HTML
-
CSS
-
JavaScript
Mae cydymffurfiaeth â’r canllawiau hygyrchedd a ddefnyddir yn dibynnu ar y technolegau hyn.
​
Beth yr ydym yn gwneud i wella hygyrchedd
​
Mae ein taith hygyrchedd yn parhau. Rydym yn adolygu ein gwefan a’i chynnwys yn rheolaidd er mwyn dod o hyd i broblemau a’i ddatrys. Gallwn berfformio’r gwiriad hwn trwy redeg prawf ar ein gwefan gan ddefnyddio Recite Me Accessibility Checker.
Adolygir a diweddarir y datganiad hwn o leiaf unwaith y flwyddyn.
26/09/2024