top of page

Rhoddion - Codi Arian - Cymynroddion

Dod yn Ffrind i Ailddeffro

Rhoi

Rhoddion cyson neu untro - ni fedrwn gwneud dim hebddoch chi!

Codi Arian

O deithiau cerdded noddedig i farathonau, byddwn ni gyda chi i bob cam o'r ffordd!

Cymynroddion

Rhoi yn eich ewyllys/Rhoi er cof am rywun

Dod yn Ffrind i Ailddeffro

​

Trwy ddod yn Ffrind i Ailddeffro byddwch yn cefnogi ein cenhadaeth o gael pobl ifanc i drafod iechyd meddwl. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n gallu cefnogi ein helusen fach, gwirfoddoli a chynrychioli Ailddeffro oddi fewn ein cymuned leol a thu hwnt.

​

Sefydlwyd Cyfeillion Ailddeffro yn 2022 ac mae aelodaeth yn agored i bawb – unigolion, sefydliadau, perthnasau, a’r rhai sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau.

​

Mae ystod ffyrdd amrywiol i Gyfeillion cyfrannu, o drefnu digwyddiadau codi arian lleol i wirfoddoli a darparu adnoddau hanfodol ar gyfer pobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

​

Os oes diddordeb gennych ymuno â ni fel Ffrind, dim ond rhaid i chi danysgrifio i’n cylchlythyr a chysylltu dros e-bost hello@rekindle.org.uk i drafod sut allwch chi gyfrannu.

"Teimla mwy na chwarter pobl ifanc nad oedd ganddynt gymorth iechyd meddwl yn yr ysgol"

Lles Meddyliol yng Nghymru (2020)

Mae Ailddeffro yn anelu at mynd i'r afael â'r fwlch honno ond er mwyn i ni ei wneud, rydym eich angen chi!

 

£2

Bydd yn talu am groeso cynnes at Ailddeffro gyda phaned a bisged

£40

Bydd yn dalu am apwyntiad cychwynnol gyda aelod ein tîm o'n safle yng nghanol Y Drenewydd

£2800

Bydd yn talu am gost cynnal ein safle am un mis*
*ddim yn gynnwys costau staff

Donations

Rhoddion Cyson ac Untro
​
Bydd eich rhoddion yn ein galluogi i barhau i gynnig iechyd meddwl hanfodol ar gyfer pobl ifanc yr ardal yn ystod cyfnod pan mae angen ein gwasanaethau mwy nag erioed. Plîs helpwch ni drwy roi ar lein trwy ein botwm Just Giving isod. Peidiwch ag anghofio dewis Rhodd Cymorth (*os yn gymwys) i gynyddu eich rhodd trwy ganiatáu i ni hawlio 25c ychwanegol ar bob £1 y rydych chi'n ei roi!

Rhodd Cymorth

​

Gall gynyddu eich rhodd gan 25c i bob £1 y rydych chi'n rhoi gyda dim cost ychwanegol i chi!

​

*Os ydych chi'n drethdalwr yn y DU gallwch gynyddu eich rhodd yn syml trwy ddewis Rhodd Cymorth wrth i chi roi ar Just Giving neu trwy lawrlwytho, llenwi ac anfon y datganiad Rhodd Cymorth i ni. Yna bydd modd i ni hawlio'n ôl ar eich rhodd wrth HMRC.

Across Wales Walk 2024 - website.jpg

Codi Arian

Fundraising

Rydym yn dibynnu ar roddion caredig pobl eraill er mwyn cadw ein helusen i fynd. Gallwch ein helpu codi'r arian sydd angen trwy arwain menter codi arian eleni.

 

Oes gennych chi ddigwyddiad her eich bod yn fodlon ei ymgymryd dros elusen, neu barod i brofi eich sgiliau pobi gyda bore coffi yn y swyddfa?

Beth bynnag yw eich syniad am godi arian, bydd ein tîm yn eich cefnogi i lwyddo.

​

RYDYM ANGEN CHI a'ch sgiliau codi arian!

​

  • Digwyddiad noddedig: cerdded, dringo, nofio, rhedeg, seiclo...

  • Diwrnod pyjamas

  • Bore coffi

  • Noson bingo/cwis

  • Rhediad tractorau

  • Eich syniad arbennig heb ei feddwl amdano o'r blaen!!!

Cysylltwch â'r tîm heddiw gyda'ch syniad codi arian.

Rydym yn elusen fach sy'n dibynnu ar roddion oddi wrth y cyhoedd ac ymddiriedolaethau er mwyn i ni barhau i weithredu. Fel canlyniad, bydd pob ymdrech codi arian a wnaed ar ein rhan yn cyfrannu'n sylweddol at ein gallu i gynnal a thyfu ein gwasanaeth iechyd meddwl pwrpasol. Os oes ddiddordeb gennych i'n cefnogi trwy godi arian, cysylltwch â ni.

AdobeStock_318801124.jpeg

Cymynroddion -

Rhoi Grym i Bobl Ifanc Heddiw er mwyn Yfory Gwell

Legacy Gifts

Bydd cynnwys rhodd yn eich Ewyllys yn ffordd arbennig iawn i helpu cefnogi iechyd a lles meddyliol pobl ifanc yng Nghanolbarth Cymru.

​

Gwyddom y bydd eich teulu yn dod yn gyntaf bob tro, ond wrth i chi ysgrifennu eich Ewyllys, plîs ystyriwch eich cymynrodd yng nghyd-destun helpu dod ag anawsterau iechyd meddwl pobl ifanc i ben unwaith ac am byth.

​

Rydym yn deall mai penderfyniad enfawr yw cynnwys rhodd yn eich Ewyllys, ac rydym am sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd angen i chi fod yn gyfforddus gyda’ch penderfyniad.

​

Fel yr amlinellir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, ‘Mae’n gyfrifol hawlio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych chi’n ystyried cynnwys rhodd elusennol yn eich ewyllys er mwyn sicrhau eich bod wedi bodloni’r gofynion cyfreithiol angenrheidiol. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar hawlio cyngor cyfreithiol ar wefan y Ganolfan Gynghori.

​

Diolch am eich cefnogaeth.

one pair of hands helping another pair to do artwork

Ers ei sefydliad ym 1997, mae Ailddeffro wedi gweithio wrth ochr pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl. Erbyn hyn, rydym yn canolbwyntio ar bobl 16-25 oed er mwyn cynnig ymyriad ac ataliad cynnar i’r rhai sydd dan beryg problemau iechyd meddwl neu sy’n dioddef o drallod meddyliol megis iselder, gorbryder neu hunan-niweidio.

Yn y cyfnod o chwe mis rhwng mis Tachwedd 2023 - mis Ebrill 2024, cynyddodd ein hatgyfeiriadau gan dros 100% gan gymharu at yr un cyfnod yn 2022-2023. Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau am gymorth yn uniongyrchol o bobl ifanc, eu teuluoedd, a gwasanaethau statudol a sector trydyddol yng Nghanolbarth Cymru.

Yn ôl erthygl gan Ymchwil y Senedd a gyhoeddwyd yn 2022, ‘darganfyddai ymchwil bod 47 allan o bob 100 oedolyn yng Nghymru wedi dioddef o leiaf un ACE [profiad niweidiol yn ystod plentyndod] yn ystod eu plentyndod a bod 14 wedi dioddef pedwar neu fwy.’ Hefyd datganodd yr effeithir iechyd meddwl gan dlodi. Ers i’r adroddiad cael ei gyhoeddi, mae’r genedl wedi wynebu heriau ychwanegol gan yr argyfwng costau byw. Gan ychwanegu unigrwydd bywyd gwledig a’i fynediad cyfyngedig at wasanaethau a gallwch weld pam fod yr angen am Ailddeffro a sefydliad tebyg yn tyfu.

Bydd gwaddolion yn sicrhau gallu Ailddeffro i barhau i gynnig cymorth hanfodol i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw wella eu lles meddyliol, meithrin gwydnwch, a chofleidio yn nyfodol iach.

Rhoi Er Cof

​

Trwy roi er cof anwylyd, byddwch yn ein helpu i gefnogi iechyd a lles meddyliol pobl ifanc ar draws Canolbarth Cymru.

​

  • Trefnu Casgliad mewn Angladd

Mae ein hamlenni casgliad yn ffordd gyfleus casglu rhoddion mewn angladd neu oedfa goffau. Cysylltwch â ni i archebu amlenni neu flychau casgliad.

​

  • Rhoddion Personol

Gallwch wneud rhodd bersonol ar-lein - ar ôl i chi roi, rhowch wybod i ni er cof am bwy a wnaed y rhodd.

 

​​Gallwch hefyd gwneud rhodd bersonol trwy anfon siec daladwy i Rekindle Home, at: Ailddeffro, 2-3 Canolfan Fusnes Ladywell, Y Drenewydd, Powys SY16 1AF. Rydym yn gofyn yn garedig i chi gynnwys llythyr gyda'ch siec gan roi gwybod i ni pam yr ydych chi'n gwneud rhodd ac er cof am bwy a wnaed.

​

 

 

  • Trefnu casgliad ar-lein

Gallwch ddefnyddio gwefannau rhoi ar-lein megis Just Giving i ofyn i bobl cyfrannu rhodd er cof am eich anwylyd Cysylltwch â ni os bydd angen help arnoch i sefydlu tudalen.

Rhoi mewn Nwyddau

​

Os hoffech chi roi nwyddau plîs cysylltwch â'r swyddfa i wirio ein bod yn gallu eu derbyn. Rydym bob tro'n dra ddiolchgar derbyn rhoddion y bydd o gymorth i'n pobl ifanc.

Gallwn derbyn:

  • Llyfrau

  • Gemau bwrdd

  • Adnoddau celf a chrefft heb eu defnyddio

  • Llyfrau nodiadau

Os bydd angen cymorth arnoch gydag unrhywbeth a drafodir uchod, cysylltwch â ni trwy'r ffurflen isod, ffoniwch ni ar 01686 722222 neu ebostiwch hello@rekindle.org.uk

Legacy Gift/Donations/
Gifts In Kind

I'd Like to Discuss This Further

 

Thank you - we'll be in touch soon!

Gwirfoddoli

Oes gennych amser i sbario? Rhannwch eich sgiliau ac arbenigedd!

Hyfforddiant a Lleoliadau

Datblygu eich sgiliau proffesiynol gydag Ailddeffro

bottom of page