Gwirfoddoli yn Ailddeffro
Os oes gennych chi amser i sbario ac rydych chi'n frwdfrydig am rannu eich sgiliau ac arbenigedd, hoffem gysylltu gyda chi!
P’un yr ydych chi’n cynnig ambell awr fan hyn a fan draw neu am ymrwymo diwrnod llawn bob wythnos, rydym yn agored i wirfoddolwyr sydd â diddordeb cefnogi ein cenhadaeth. Os ydych chi am gyfrannu eich amser sbâr er mwyn eich profiad eich hunain neu hoffech chi gwrdd â phobl newydd a chyfrannu’n bositif i’n cymuned, byddem wrth ein boddau i glywed wrthoch.
​
Ni fyddai ein gwasanaethau yn bosibl heb gefnogaeth oddi wrth wirfoddolwyr caredig a hael.
​
Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli presennol.
​
Cyfeillion Ailddeffro
Mae Ailddeffro yn gweithredu i ehangu ei ôl-troed yn y gymuned leol, creu cysylltiadau, meithrin perthnasau newydd, ac archwilio ffrydiau refeniw ffres. Menter ganolog yn yr ymdrech hon roedd sefydliad Cyfeillion Ailddeffro yn 2022. Anela’r cynllun hwn at atgyfnerthu cefnogaeth i’r staff a gwirfoddolwyr ymroddedig, rhywbeth a fydd o fudd i gleientiaid y sefydliad yn y pen draw. Mae aelodaeth Cyfeillion Ailddeffro yn agored i bawb - unigolion, sefydliadau, perthnasau, a hyd yn oed cleientiaid blaenorol. Mae ffyrdd amrywiol i Gyfeillion cyfrannu, o drefnu digwyddiad codi arian lleol i wirfoddoli a darparu adnoddau hanfodol i bobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.
Os oes gennych chi ddiddordeb gwirfoddoli, ymunwch â ni fel ffrind yn syml trwy danysgrifio i’n cylchlythyr a chysylltwch dros e-bost ar hello@rekindle.org.uk i drafod sut hoffech chi estyn llaw.