Amdanon Ni
Cefnogi'r Gymuned Ers 1997...
Ein Hanes
Mae Ailddeffro yn elusen iechyd meddwl pobl ifanc sy’n cefnogi’r rhai 16-25 oed. Rydym wedi ymgartrefi yn y Drenewydd ac yn cefnogi pobl sy’n byw ar draws Canolbarth Cymru a’r ffiniau Swydd Amwythig, gan gynnig sesiynau o bell os bydd cludiant yn rhwystr.
Sefydlwyd Ailddeffro ym 1997 gan grŵp o bobl oedd i gyd wedi profi problemau iechyd meddwl o fewn ei teuluoedd ei hunain.
Ysgrifennwyd ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i gyd mewn cydweithrediad â’n cleientiaid:
-
Gweledigaeth: I sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad parod at gymorth iechyd meddwl da.
-
Cenhadaeth: I gael effaith positif ar iechyd meddwl pobl ifanc 16-25 oed, i adeiladu hyder a’i alluogi byw bywydau iach. Yn 2002, sefydlodd Ailddeffro’r prosiect peilot Camau Bach, a arianwyd gan Comic Relief, gyda’r nod penodol o gefnogi pobl ifanc 16-25 oed. Cydnabuwyd y demograffig hwn fel un dan beryg arbennig o hunanladdiad ac anawsterau eraill ynglÅ·n ag iechyd meddwl.
Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd gan y pandemig Covid, dyfalbarhaodd yr elusen ar ei chenhadaeth. Yn 2022/2023, camodd nifer o’n hymddiriedolwyr hirarhosol i lawr ac ymunodd aelodau newydd â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr. Yn ystod y cyfnod pontio hwn, apwyntiwyd Rheolwr Darparu Gwasanaeth gan y Bwrdd i oruchwylio gweithredoedd, ehangu gwasanaethau, a datblygu strategaeth ar gyfer y dyfodol.
Gwasanaethau Creiddiol Ailddeffro
1
Cymorth Iechyd Meddwl Un-i-Un
Bydd cymorth wedi’i deilwra gan gwmpasu pob agwedd bywyd person ifanc; tai, perthnasau, gwaith, gwirfoddoli, hyfforddiant, arian, magu hyder, sgiliau bywyd, gwydnwch, a mwy. Bydd pobl ifanc yn adeiladu sgiliau a derbyn cyngor, arweiniad, a chymorth ymarferol er mwyn goresgyn unrhyw heriau y bydd efallai yn rhwystrau yn erbyn iechyd meddwl da.
2
Cwnsela
Cyfle i siarad â chwnselydd hyfforddedig mewn lle diogel a chefnogol er mwyn archwilio meddyliau, emosiynau, ac ymddygiad yn rhydd a di-farn, gan feithrin mwy o hunanymwybyddiaeth ac annibyniaeth.
• Egluro pethau a deall eu hunain yn well
• Datrys teimladau cymhleth, neu ddarganfod ffyrdd newydd o fyw gyda nhw
• Cydnabod patrymau yn y ffordd eich bod yn meddwl neu ymddwyn sydd ddim yn helpu, a darganfod ffyrdd o’i newid (os ydych chi am wneud)
Mae pob un o'n gwasanaethau'n RHAD AC AM DDIM, a derbyniwn arian trwy roddion a grantiau.