Amdanon Ni
Cwrdd â'r Tîm
Lizzie Cockle – Rheolwr Darparu Gwasanaeth
Mae gan Lizzie BSc mewn Seicoleg, MSc mewn Seicoleg Iechyd ac, yn ddiweddaraf, wedi derbyn Diploma mewn Cwnsela Therapiwtig. Yn flaenorol, mae hi wedi gweithio i nifer o elusennau iechyd meddwl yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Phowys, lle gweithiodd gyda phobl 16+ oed ag anawsterau iechyd meddwl, yn ogystal â darparu a chydlynu grwpiau, a chyrsiau a gweithdai hyfforddiant seicoaddysgol. Hefyd mae ganddi brofiad helaeth o waith hybu iechyd cyhoeddus trwy reoli a darparu mentrau newid ymddygiad yn Llundain a de ddwyrain Lloegr.
Jodie Hughes – Prif Gwnselydd & Swyddog Datblygu
Ymunodd Jodie â’r tîm Ailddeffro yn 2022 fel y cwnselydd mewnol cyntaf i weithio i’r elusen. Wedi’i geni yn y Drenewydd a chyda gwreiddiau cadarn yn y gymuned amaethyddol, mae Jodie yn teimlo’n freintiedig cael gweithio gydag Ailddeffro i gefnogi pobl ifanc trwy ganolbarth Cymru. Cyn iddi dderbyn ei chymwysterau Cwnsela, gweithiodd Jodie o fewn swyddi cymorth datblygu busnes trwy Gymru gyfan ac mae hi’n gobeithio y bydd ei phrofiad personol o gael ei magu yn ein hardal wledig yn rhoi hwb iddi wrth gefnogi pobl ifanc eraill.
Robin Brierley – Cadeirydd Ymddiriedolwyr
Mae Robin yn gynghorydd annibynnol ar wrth-gaethwasiaeth fodern ac wrth-fasnachu pobl. Yn flaenorol, mae Robin wedi gweithio i’r Uned Troseddau Cenedlaethol, Rheolaeth Wrth-Lygredd o fewn yr Heddlu Metropolitan, a’r Asiantaeth Troseddau Difrifol a Threfnedig (yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol erbyn hyn). Hefyd, mae’n gyfarwyddwr gweithredol i’r elusen gofrestredig Rhwydwaith Gwrth-Gaethwasiaeth Canolbarth Gorllewin Lloegr, sy’n gweithio dros ddarparu tai diogel ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd ecsbloetiaeth.
Gerard Bland – Isgadeirydd
“Daethaf yn ymwybodol am Ailddeffro ar ddechrau 2021, pan gefais fy ngwahodd i ystyried ymuno â’r Bwrdd, rhywbeth a wnes ym mis Mai'r flwyddyn honno. O fewn llai na chwe mis, cytunais gymryd lle’r is-gadeirydd blaenorol. Pe tasai gennyf unrhyw faes arbenigedd, buasai mewn trawsnewid busnes, rheoli cyffredinol, a llywodraethu.
Yn ystod y broses o ddatblygu strategaeth, darganfyddais cyfleoedd niferus i gyflwyno offer a thechnegau o’m profiad blaenorol i helpu’r elusen ymdrin ag ambell fater mwy heriol. Mae’n amlwg bod angen mawr ar y Drenewydd i’r gwasanaeth a gynigir gan Ailddeffro, ac mae’n foddhaol gallu cefnogi ei thrawsnewidiad wrth ochr aelodau eraill y bwrdd yn ogystal â’r tîm cryf y mae Lizzie yn adeiladu o’i chwmpas.”
Fred Mathieu – Trysorydd
“Erbyn hyn rwyf wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers bron 30 mlynedd gan dreulio 20 ohonynt yma yng Nghymru. O ganlyniad fy ngwaith fel cyfrifydd mewn swyddi amrywiol yn y byd arian, rwy’n teimlo y gall fy nghefndir proffesiynol fy helpu i gefnogi elusennau lleol trwy ddarparu arbenigedd ariannol, sydd o bosib o angen mwy byth dan yr amgylchiadau presennol.
Mae’n golygu llawer i mi fod yn ymddiriedolwr elusennol. Nid ar lefel personol yn unig y mae’n foddhaol cael cyfle bod yn rhan o’r gymuned a chyfrannu ati, ond hefyd mae’n helpu cefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddyfalbarhau i ymdopi, a gobeithio ffynnu, yng nghyfnod heriau digynsail. Bydd buddsoddi ym mhobl ifanc yn sicrhau dyfodol gwell i ni i gyd a dyna pam fy mod yn hapus fod yn rhan o Ailddeffro.”
Richard Stratton – Ymddiriedolwr: Llywodraethu Clinigol
“Ymunais ag Ailddeffro ym mis Rhagfyr 2022 i helpu gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl a therapïau ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n cyfrannu at lywodraethu clinigol a chefnogi ein tîm anhygoel i wella’r gwasanaethau a ddarperir gennym yn barhaus.”