Hyfforddiant & Lleoliadau
Datblygu Eich Sgiliau Proffesiynol gydag Ailddeffro
Yn Ailddeffro, gallwn gynnig cyfleoedd hyfforddi a lleoliad amrywiol i fyfyrwyr gan gynnwys lleoliadau sy’n addas ar gyfer:
-
Cwnsela
-
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
-
Therapi Galwedigaethol
-
a mwy...
Naill ai fod gofynion i gyflawni oriau gwirfoddoli fel rhan o’u cymhwyster neu angen lleoliad i dyfu eu profiad yng nghyd-destun byd go iawn, gwnawn bob ymdrech i ddarparu dull pwrpasol â chymorth da i bob person dan hyfforddiant.
​
O ran ein lleoliadau cwnsela, ar bob cyfrif byddwn yn darparu cwnselydd cymwys, ymroddedig i weithio fel mentor a phwynt cyswllt trwy gydol cyfnod yr hyfforddai gyda’r sefydliad. Hefyd bydd hyfforddeion yn derbyn Goruchwyliaeth Glinigol gan Oruchwyliwr Clinigol detholedig y sefydliad. Bydd hyfforddeion yn derbyn gwahoddiad i fod yn bresennol mewn sesiynau hyfforddi grŵp ac ymarfer adfyfyriol gydag ein tîm.
​
Mae hefyd croeso i hyfforddeion manteisio ar unrhyw gyfleoedd hyfforddiant Datblygu Proffesiynol Parhaus sydd ar gael i’r elusen yn ystod eu cyfnod gyda ni.
​
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth: hello@rekindle.org.uk