top of page

Gwasanaethau Ail-ddeffro

Rydym yn angerddol dros greu lle diogel, cyfrinachol, a di-farn yn arbennig i chi. Gallwch dderbyn cefnogaeth oddi wrth ein gweithwyr a chwnselwyr un-i-un, ymuno â’r hwyl mewn gweithdai, gweithgareddau a grwpiau cefnogi cyfoedion, neu rannu paned gyda’r tîm yn ystod ein sesiwn galw heibio wythnosol.

Cymorth Iechyd Meddwl Un-i-Un

Cymorth ymarferol wedi’i bersonoli i’ch galluogi i fyw'r bywyd sydd eisiau arnoch, e.e. tai, cyllideb, cyfeillgarwch, hyder, sgiliau bywyd.

Cymorth Un-i-Un

Cymorth wedi’i deilwra i’ch helpu ymdrin â’r heriau yn eich bywyd.

Cwnsela

Archwilio meddyliau ac emosiynau yn rhydd, heb ofn barn. Dysgu fwy amdanoch chi eich hunan a pha bethau sydd yn eich helpu.

GRWPIAU

Cwrdd ag eraill sydd hefyd yn gofalu dros y pethau sy’n bwysig i chi.

​Gweithgareddau

Dysgu sgiliau newydd, profi eich creadigrwydd, neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Galw Heibio

Cymorth anffurfiol a chyfeillgar sy’n rhwydd hawlio.

Sut i dderbyn help oddi wrth Ail-ddeffro

 

Gallwch hunangyfeirio i Ail-ddeffro trwy lenwi ein ffurflen gyfeirio ddiogel ar-lein. Gall atgyfeiriad cael ei wneud ar eich rhan gan ffrind, aelod teulu, neu weithiwr proffesiynol sydd gan ganiatâd gennych.

 

Hefyd, mae croeso i chi cysylltu â’r tîm yn Ail-ddeffro trwy ymweld â’n safle yn y Drenewydd yn ystod ein horiau galw heibio, ffonio ni ar 01686 722222, neu e-bostio ni ar help@rekindle.org.uk <mailto:help@rekindle.org.uk>.

 

 

Cynhelir apwyntiadau ar ein safle yn y Drenewydd, ond bydd cymorth ar gael ar ffôn neu alwad fideo os bydd well gennych.

bottom of page