top of page

Cwnsela

“Mae Ail-ddeffro wedi helpu fi trwy un o frwydrau anoddaf wynebais i erioed – wnaeth ei gymorth a sgyrsiau ddim jyst dangos ffordd well i fi ond galluogi fi i weld mai fu yna erioed.”

AdobeStock_503751627.jpeg

Bydd cwnsela yn darparu lle i chi archwilio eich meddyliau a theimladau gyda pherson eich bod yn ymddiried ynddo. Bydd unrhyw faterion dan drafodaeth yn gyfrinachol a bydd eich cwnselydd, gyda’ch help, yn profi bywyd trwy eich llygaid chi. Byddwn yn eich helpu i archwilio eich byd, credoau, a theimladau, gan ddatblygu eich hunanymwybyddiaeth ac annibyniaeth. Mae cwnsela yn berson-ganolog (person-centred), sy’n golygu mai chi fydd yn arwain y sesiynau a derbyn y pŵer i siarad am ba bethau yr ydych chi eisiau. Nod cwnsela person-ganolog yw cyflawni eich potensial a chydnabod eich holl allu.

​

Os bydd rhywun yn teimlo’n ddi-werth, gwag, neu anobeithiol, bydd cwnsela yn gweithio i archwilio’r teimladau hyn a thorri trwy gredoau sydd ddim yn eich helpu, a hunansiarad negyddol. Bydd ein sesiynau yn agor trwy siarad, ond yn aml bydd ystod mynegiant gan gynnwys chwerthin, dicter, a chrio. Efallai ambell waith byddwn yn cyflwyno technegau chyfrwng celf, ysgrifennu dyddiadur, neu feddylgarwch i’ch cynorthwyo i gael y mwyaf o’r sesiwn.

​

Addewidion ein cwnselwyr:

  • Byddwn ni’n agored a gonest trwy’r amser.

  • Eich amser chi bydd cyfnod y sesiwn, i’w ddefnyddio fel bydd angen arnoch.

  • Bydd canolbwynt y sesiwn arnoch chi yn unig, yn rhydd o wrthdyniad.

  • Byddwn yn gwrando arnoch, peidio â thorri ar eich draws, ac yn eich caniatáu arwain y sesiwn.

  • Weithiau byddwn yn ‘galw mewn’ er mwyn cadarnhau ein bod wedi deall gan ailadrodd beth glywon ni.

  • Na fyddwn yn eich beirniadu chi, o ble yr ydych yn dod, neu am beth yr ydych chi eisiau siarad.

  • Na fyddwn yn rhoi pwysau arnoch i siarad am eich plentyndod neu orffennol.

  • Na fyddwn yn rhoi gwaith cartref i chi (oni bai eich bod wedi gofyn i ni wneud!).

  • Na fyddwn yn dweud wrthoch beth i’w wneud.

Sut i dderbyn help oddi wrth Ail-ddeffro

 

Gallwch hunangyfeirio i Ail-ddeffro trwy lenwi ein ffurflen gyfeirio ddiogel ar-lein. Gall atgyfeiriad cael ei wneud ar eich rhan gan ffrind, aelod teulu, neu weithiwr proffesiynol sydd gan ganiatâd gennych.

 

Hefyd, mae croeso i chi cysylltu â’r tîm yn Ail-ddeffro trwy ymweld â’n safle yn y Drenewydd yn ystod ein horiau galw heibio, ffonio ni ar 01686 722222, neu e-bostio ni ar help@rekindle.org.uk.

 

Cynhelir apwyntiadau ar ein safle yn y Drenewydd, ond bydd cymorth ar gael ar ffôn neu alwad fideo os bydd well gennych.

bottom of page