Ailddeffro Yn Dathlu Llwyddiant o Fri yng Ngwobrau Elusen Weston 2025
- Rekindle
- Aug 26
- 2 min read

Ailddeffro Yn Dathlu Llwyddiant o Fri yng Ngwobrau Elusen Weston 2025
Mae gan Ailddeffro pleser o gyhoeddi mai ni a enwyd yn enillydd yng Ngwobrau Elusen Weston 2025, gan sefyll yn falch ymysg 21 elusen ysbrydoledig a ddetholwyd o 160 o ymgeiswyr ar draws y DU.
Mae’r Gwobrau yn dathlu a chefnogi elusennau sy’n gweithio yn y meysydd cymunedol, amgylcheddol, lles, a chymorth ieuenctid, gan gydnabod eu bod yn chwarae rôl hanfodol mewn atgyfnerthu cymdeithas. Bydd Ailddeffro yn awr derbyn mentora arwain ac arweiniad strategol amhrisiadwy gan dîm ymroddedig o arbenigwyr Pilotlight.
Dywedodd Lizzie Cockle, Rheolwr Darparu Gwasanaeth yn Ailddeffro:
“Rydym wrth ein boddau i gael ein dewis fel enillydd Gwobrau Elusen Weston! Rydym yn edrych ymlaen at weithio efo’r tîm arbenigwyr Pilotlight er mwyn siapio ein cyfeiriad strategol, gwella cynaliadwyedd, a chryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau hanfodol er mwyn i ni barhau i gefnogi a rhoi nerth i bobl ifanc yng Nghanolbarth Cymru a Gororau Sir Amwythig ffynnu.”
Daw’r Gwobrau Elusen Weston yn ystod cyfnod allweddol i’r sector. Mae elusennau ar draws y DU dan bwysau cynyddol i ddarparu gwasanaethau newid bywyd wrth wynebu costau uwch, galw ymchwyddedig, a thirwedd ariannu heriol. Mae’r Gwobrau yn cynnig lle i sefydliadau fel Ailddeffro cael saib, adfyfyrio, a chynllunio ar gyfer dyfodol gwydn – gan sicrhau y bydd cymorth i bobl ifanc dal ei dir am flynyddoedd i ddod. Ni fyddai’r camp hwn yn bosibl oni bai am ymroddiad ein tîm, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, rhoddwyr arbennig a – yn bwysicaf oll – y bobl ifanc cawn gweithio wrth ei ochr. Yn syml, ni fyddai Ailddeffro fel y mae oni bai amdanoch chi i gyd.
|
Comments