top of page
Search

Pobl Ifanc Yn Taro Deuddeg: Elusen Yn Cloi Hâf Prysur o Weithgareddau

Mae wedi bod tymor i’w gofio i’r bobl ifanc sy’n derbyn ein cymorth, efo rhaglen llawn top o weithgareddau sy’n amrywio o egnïol i addysgiadol - a phopeth rhyngddyn nhw.

 

Dros y chwarter diweddaraf, mae cyfranogwyr wedi mwynhau rholio i ambell streic ar hyd yr ale bowlio, profi eu gwybodaeth mewn cwisiau bywiog, a hyd yn oed bod yn rhan o her hel sbwriel a drodd weithred o helpu’r gymuned mewn cystadleuaeth hwylus. Buodd Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt gan gynnig cyfle i bobl ifanc profi un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru.

 

Wrth ochr i’r hwyl, ymdrinwyd â phynciau pwysig ynglŷn â lles yn blwmp ac yn blaen. Darparodd y sesiynau ar iechyd rhywiol, hyder corff, a hunanofal gwybodaeth a chymorth hanfodol i bobl ifanc mewn amgylchedd diogel, croesawgar.

 

Gwelwyd presenoldeb cryf dros yr haf, wrth i bobl ifanc dod i gymryd rhan a chreu atgofion efo’i gilydd. Wrth i’r rhaglen bresennol tynnu at y terfyn, bydd sylw yn troi at fis Medi pan fydd rhaglen o sesiynau newydd sbon yn lansio - ac am y tro cyntaf, bydd y rhaglen yn ymestyn at y Trallwng.

 

Dywedodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth Fleur Thompson: “Mae wedi bod yn fendigedig gweld cymaint o bobl ifanc bod yn rhan o ystod mor eang o weithgareddau – o’r hwyl a sbri i ddysgu sgiliau bywyd. Rydym yn gyffrous croesawu mwy fyth o bobl ifanc yn y Trallwng ym mis Medi a methu aros dechrau ar y bennod nesaf.

 

Wrth i haf cryf machlud tu ôl i ni a dyfodol ehangol o’n blaenau, ymddengys mai dim ond i fyny sydd i fynd - ac efallai streic arall yn yr ale bowlio hefyd.



 
 
 

Comments


bottom of page