top of page
Search

Mae Ailddeffro’n Ymestyn yn Ehangach: Gwasanaethau Newydd yn y Trallwng!


ree

Mae gan Ailddeffro, sef yr unig elusen yng nghanolbarth Cymru sy’n canolbwyntio ar gefnogi lles ac iechyd meddwl pobl ifanc 16-25 oed yn unig, pleser i gyhoeddi ehangiad ei wasanaethau hanfodol o’r Drenewydd i’r Trallwng.

 

Gan adeiladu ar lwyddiant ein hwb sefydledig yn y Drenewydd, noda’r gwasanaeth newydd hwn cam cyffrous ymlaen er mwyn sicrhau y gall mwy o bobl ifanc hawlio cymorth cynnar, person-canolig pan fydd yr angen mwyaf arnynt.

 

Un Llais o’n Pobl Ifanc

 

Cipiodd un person ifanc beth y mae Ailddeffro yn golygu iddyn nhw:

Heb Ailddeffro, ni fuaswn i fyth wedi cyrraedd lle ydw i. Pan o’n i mewn teilchion, wnaethon nhw fy helpu i ddod yn ôl at fy nghoed.


Cawn ein hatgoffa gan straeon fel hyn pam fod angen ehangiad - i bob un dref y cyrhaeddwn, cefnogir mwy o fywydau ifanc, ailadeiladir mwy o hyder, ac adferir mwy o obaith.

 

Beth sydd ar gael yn y Trallwng?

 

·       Cwnsela – bydd sesiynau cyfrinachol, person-canolig ar gael trwy’r dydd pob dydd Mercher, gan gynnig lle traphwysig i bobl ifanc archwilio meddyliau, teimladau, a heriau.

 

·       Cymorth Lles – arweiniad ac anogaeth ymarferol er mwyn mynd i’r afael â heriau bywyd a gosod goliau ystyrlon – prynhawn Mercher.

 

 

·       Grwpiau a Gweithgareddau – lle diogel, cyfeillgar ar gael pob prynhawn Mawrth efo lluniaeth, Wi-Fi, gemau, a gweithdai creadigol i ddod â phobl ifanc at ei gilydd.

 

Dewch o Hyd i Ni

 

·       Cwnsela & Chymorth Lles – dydd Mercher yng Nghanolfan Deulu Integredig, Oldford Close, Y Trallwng (SY21 7SX)

 

·       Grwpiau & Gweithgareddau – dydd Mawrth, 1-4yp yn The Feather, Ffordd Howell, Y Trallwng (SY21 7AT)

 

Sut i Hawlio Cymorth

 

Gall pobl ifanc hunangyfeirio i Ailddeffro ar-lein, neu dros y ffôn - ac mae hefyd croeso i deulu, ffrindiau, neu weithwyr proffesiynol gwneud atgyfeiriad (gyda chaniatâd). Mae’r sesiynau yn hyblyg, ar gael mewn person, dros y ffôn, neu trwy alwad fideo.

I ddarganfod mwy neu wneud atgyfeiriad ewch at www.rekindle.org.uk | hello@rekindle.org.uk | 01686 722222

 

Edrych i’r Dyfodol

 

Nid yw’r lansiad yn y Trallwng yn wasanaeth arall yn unig - ond carreg filltir. Trwy ymestyn tu hwnt i’r Drenewydd, mae Ailddeffro yn cryfhau ei ymrwymiad at sicrhau na fydd rhaid i ddim un person ifanc yng nghanolbarth Cymru wynebu heriau iechyd meddwl ar ei ben ei hunan.

 

Dyma eiliad i’w ddathlu, ac yn eiliad i’n hatgoffa beth sydd yn bosibl pan fyddwn ni’n gweithio efo’n gilydd i gefnogi’r genhedlaeth nesaf.

 

Diolch yn fawr iawn i PAVO am ei gefnogaeth ariannol, ac i Gronfa Gymunedol Stadiwm y Mileniwm am ddarparu trafnidiaeth er mwyn helpu pobl ifanc cyrraedd ein gwasanaethau.



ree

 

 
 
 

Comments


bottom of page