Canllawiau Meistroli Straen Arholiadaui Bobol Ifanc
- Rekindle
- Apr 22
- 3 min read
Gan Aimee Williams – Gwirfoddolwrai
Datgelodd 85% o fyfyrwyr mewn arolygiad i straen arholiadau yn 2024, iddynt brofi gorbryder ynglŷn â’u arholiadau. Mae hyn yn tanlinellu mae peth normal ac arferol yw teimlo straen adeg arholiadau. Er bod ychydig o straen yn gallu helpu ein symbyliad, gall straen llethol wneud hi’n anodd canolbwyntio. Gall pwysau gan yr ysgol, gan eich teulu neu gennych chi eich hunan lwyddo i achosi pryder llethol ichi. Cofiwch, bethbynnag fydd eich canlyniadau, mae eich iechyd meddwl yn bwysig hefyd.
Tanlinellir isod rai ffyrdd effeithiol i leihau teimladau o straen a gorbryder ynglŷn â pharatoi at arholiadau.
Creu amserlen adolygu:

Gwnewch yr hyn sy’n gweithio orau i chi:
Gallwch ddefnyddio amryw systemau i adolygu ond mae’n bwysig ichi gael hyd i’r un sy’n gweithio orau i chi. Gall darlunio diagramau, gwrando/gwylio fideos neu wneud caneuon weithio i chi – ceisiwch fod yn agored i greadigedd.
Hoffi adolygu gartef mae rhai ond gan fod rhai cartrefi yn hectig, haws fyddai canolbwyntio mewn llyfrgell, ysgol neu gaffi.
Tip - Mae eich cyfoedion yn yr un cwch a chithau felly beth am astudio gyda’ch gilydd? Wrth ichi weithio gyda’ch gilydd, hwyrach byddai’r adolygu yn fwy pleserus a chynhyrchiol!
Edrychwch ar ôl eich hunan:
Mae arholiadau yn amser llawn straen a phwysau felly mae’n bwysig iawn cymeryd amser i edrych ar ôl eich hunan. Mae angen goffwys i’r meddwl a’r corff ichi allu perfformio ar eich gorau.
Byddwch garedig wrthych eich hunan. Adlewyrchwch ar y pethau ydych wedi eu cyflawni yn barod – oddi fewn i’r astudio ac o’r tu allan (rydych yn haeddu tipyn o hunan-gariad!).
Peidiwch a chymharu eich hunan gydag eraill - canolbwyntiwch ar yr hyn y gallwch ei wneud. Hwyrach eich bod yn teimlo fod pobol eraill yn gwneud yn well na chi ac mae hynny’n OK gan ein bod ni oll yn unigryw. Cofiwch fod eich ffrindiau yn ymdopi â straen arholiadau hefyd ac yn nerfus yn union yr un fath â chi.
Ymestynnwch. Gall straen arholiadau wneud ichi deimlo’n unig ond nid oes raid ichi wynebu hyn ar ben eich hun. Siaradwch am eich teimladau â rhywun ydych yn ymddiried ynddynt.
Seibiau rheolaidd. Gall gorlwytho’r ymenydd arwain i ‘losgi allan’ felly mae cymeryd seibiau rheolaidd yn eich cynnal i ddargadw gwybodaeth yn well. Dowch o hyd i ffyrdd i ryddhau straen ac i ddathlu eich cynnydd ee. gwylio’r teledu, darllen llyfr, mynd am dro neu wrando cerddoriaeth. Does dim rhaid ichi deilyngu’r seibiau – cymerwch seibiau unrhyw amser y mynnoch!
Gofalwch am eich corff. Rhaid sicrhau eich bod yn cael digonedd o gwsg, bwyd, dŵr ac ymarfer. Golyga corff iach feddwl iach!
Cadw’n bositif:

Dim ond rhan o’ch siwrnai academaidd yw arholiadau - nid y darlun cyfan. Gallwch eu gwynebu trwy ddarparu’n dda a defnyddio strategaethau rheoli. Cofiwch, nid ydych ar ben eich hun yn hyn ac mae cefnogaeth ar gael bob amser pan mae ei angen arnoch.
You’ve got this! 💪✨
Comments