top of page
Search

Curo Iselderau’r Gaeaf

Writer's picture: RekindleRekindle

Erthygl Aimee Williams (21) gwirfoddolwraig Ail-ddeffro


Mae tymor y gwyliau wedi diflannu a pharhau mae’r dyddiau oer. I lawer o bobol ieuainc, mae mis Ionawr yn teimlo fel dirwasgiad emosiynol. Mae’r dyddiau byrion a’r tywydd di-lewyrch yn gallu bod yn hollol ddigysur ond mae yna newyddion da – does dim rhaid ichi aros tan ddaw’r gaeaf i ben. Gallwch, gyda phenderfyniad, guro iselderau’r gaeaf a theimlo eich hadnewyddu yn barod i’r gwanwyn. Mae rhai awgrymiadau isod allai eich helpu trwy’r wythnosau canlynol.


Gwnewch y gorau o’r golau naturiol!

reflection and shadow on wall from sunlight

 

Mae’r diffyg haul yn brif elfen yn iselderau’r gaeaf felly pwysig iawn yw ceisio cael cyn gymaint a olau naturiol ag sy’n bosibl. Gall cerdded o gwmpas ychydig, mynd am dro i’r parc efallai ac agor y llenni i adael i’r haul ddod trwodd, fod o fudd mawr.


 

Cysylltwch â phobol

Popcorn in tubs with one spilling over and a clapper board behind

Mae unigedd yn brif elfen yn iselder misoedd y gaeaf. Hawdd yw gaeafgysgu ond mae cysylltu yn gymdeithasol yn allweddol i’ch iechyd meddwl. Ymestynwch â ffrindiau trwy rhithwir neu nosweithiau ffilm. Gall cydberthnasu bychain fel hyn guro unigrwydd a rhoi hwb i’ch hwyl. Peidiwch ag oedi i siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt os ydych yn teimlo’n isel iawn. Gall sgwrs gyda ffrind neu aelod o’ch teulu godi pwysau trwm oddi arnoch.

 

Gall ymarfer roi endorffiniau Ichi!

bottom half of legs walking up steps in trainers

Ffordd arall i godi eich hwyliau a’ch egni yw ymarfer yn rheolaidd. Mae ymarfer yn ennyn ‘dopamine’ a ‘serotonin’, y cemegyddion yn yr ymenydd sy’n cynhyrchu teimladau da ac sy’n gallu ymladd eich symptonau. Gall ‘workout’ y tu mewn neu hwyrach reidio beic allan yn y tywydd oer symud eich corff i frwydro teimladau dioglyd.


 

Blaenoriaethu edrych ar ôl eich hunan

bath sponge on a rope

Hawdd yw anghgofio cymryd gofal ohonoch eich hunan pan mae’r tywydd oer yn eich hannog i aros yn y gwely trwy’r dydd. Yn hytrach, mae cynnal rwtîn iechyd yn allweddol er mwyn cadw’n bositif. Mae cysgu digon, bwyta bwyd maethlon a chadw’n hydradol yn hanfodol. Os ydych yn teimlo’n bryderus neu o dan straen, gwnewch amser i wneud yr hyn ydych yn ei fwynhau i geisio hyrwyddo ymollyngdod. Gall cymryd bath cynnes hir, sgwennu, myfyrdod neu ddarllen hwyrach, roi gofod ichi gael ail-wefru.

 

Ceisiwch rywbeth newydd

ball of wool and knitting needles

Gall y gaeaf fod yn hir iawn pan ydym yn sownd yn yr un hen rwtîn felly beth am wneud rhywbeth newydd. Hwyrach mai risêt newydd i’w goginio fyddai neu dysgu iaith, crosio, ffotograffiaeth neu ddechrau llyfr lloffion. Byddai dechrau rhywbeth gwahanol yn rhoi cyffro ac ystyr i’ch dyddiau gan adfywio eich ymenydd.


Cofiwch mai dim ond tros dro y mae’r gaeaf a bydd yr haf yma gyda hyn. Bydd yr arferion a’r strategaethau a ffurfiwyd gennych yn awr yn eich galluogi i gynnal eich lles trwy gydol y flwyddyn.

2 views0 comments

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page