Cyfle Gwirfoddoli Garddio
- Rekindle
- Aug 12
- 1 min read
Rydym yn chwilio am wirfoddolwr dibynadwy, cyfeillgar i’n helpu gofalu am yr ardd gwrt fach yn Ailddeffro.
Dyma le awyr agored heddychlon sy’n rhan bwysig o’n safle, gan gynnig amgylchedd llonydd a chroesawgar i’r bobl ifanc a fydd yn ymweld â ni. Er mwyn ei chadw ar ei gorau, rydym angen rhywun sydd wrth ei fodd efo planhigion ac sydd gan ychydig o amser i’w sbario.
Dyletswyddau’r rôl:
· Dyfrio a chynnal ein cynwysyddion plannu
· Cynnal tymhorol ysgafn
· Oddeutu 15-30 munud o waith, dwywaith yr wythnos yn yr hâf (llai yn y gaeaf)
· Dyddiau ac amseroedd hyblyg Bydd angen gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer y rôl hon a drefnir ac ariannir gennym.
Dyma gyfle hyfryd i rywun sy’n mwynhau garddio ac eisiau cyfrannu at amgylchedd positif a chefnogol ar gyfer pobl ifanc. Oes diddordeb gennych neu hoffech chi wybod mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni hello@rekindle.org.uk

Kommentare