Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ffodus i dderbyn rhoddion trwy ddigwyddiadau cerddoriaeth sy'n digwydd o fewn cymunedau lleol.
Ym mis Hydref, perfformiodd Tommy Mills, Nigel Rowlands, Mark Jefferis ac Ed Palshis mewn noson Beatles yng Nghlwb Monty, gan godi dros £440!Yn anffodus, yn sgil y storm ddydd Sadwrn diwethaf, bu’n rhaid gohirio'r digwyddiad unigol yng Nghastell Caereinion, ond llwyddodd Côr Cymunedol Hafren a Llanidloes i barhau â’r sioe ddydd Sul, gan godi dros £280.
Diolch i bawb sy'n ymwneud â pherfformio a chyfrannu.
Gallai'r cyfanswm cyfunol hyd yn hyn dalu am:
• Gwnsela cychwynnol neu apwyntiad cymorth personol ar gyfer 18 cleient
• Rhaglen o chwe sesiwn cwnsela neu gymorth personol ar gyfer 3 cleient
• Cyfraniad o ychydig dros 25% tuag at gostau rhedeg ein hadeiladau am fis
Os ydych chi’n cynnal digwyddiad cerddoriaeth neu ddigwyddiad cymunedol arall ac yn dymuno codi arian i ni, cysylltwch â ni drwy hello@rekindle.org.uk.Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth am ein gwaith, gweithgareddau, a'n cymuned: rekindle.org.uk.
See our website for more information on our work, activities, and community: rekindle.org.uk.
Comentarios