top of page
Search

Hwyl Fawr i’r Lleoliad: Crynodeb gan Judith

Writer's picture: RekindleRekindle

Hoffem estyn diolch o galon i Judith, a orffennodd ei lleoliad cwnsela gydag Ail-ddeffro trwy gydol 2024 wrth astudio yng Ngholeg Amwythig.

 

Mae Judith wedi bod aelod ymroddedig a chefnogol o’r tîm, gan roi ein cleientiaid yn gyntaf pob tro. Ar ôl gorffen 100 awr o ymarfer yn llwyddiannus, mae hi bellach wedi gorffen yn ei hastudiaethau ac yn barod i gamu ymlaen yn ei gyrfa cwnsela.

 

Diolch i ti, Judith, am dy waith caled ac ymroddiad. Dymunwn y gorau i ti yn y dyfodol!

 

Rhannodd Judith:

“Mae Ail-ddeffro wedi bod lle cefnogol ac ysbrydoledig i gyflawni lleoliad myfyriwr. Mae’r amgylchedd yn broffesiynol a buodd y sesiwn sefydlu’n drwyadl a llawn gwybodaeth. Bydd pob myfyriwr yn derbyn gliniadur gwaith er mwyn iddo gael mynediad at y system a ddefnyddir gan yr elusen. Bydd y platfform yn sicrhau bod cofnodion yn gyfrinachol a diogel ond hefyd cyraeddadwy i gwnselydd cefnogol, profiadol sy’n cynnal trosolwg o’r cofnodion a wnaed. Mae’r rheolwyr llinell yn gyraeddadwy, cefnogol, a chyfeillgar. Maen nhw’n mor hapus i helpu a hefyd i dywys pan ddaw heriau. Derbynion ni oruchwyliaeth fisol o 1.5awr, a oedd yn help enfawr.

 

Bydd y cleientiaid rhwng 16 a 25 oed, ac yn profi pryderon amrywiol, sy’n wych o ran profiad gwaith. Bydd y system archebu yn sicrhau y bydd gennych chi ystafell breifat, glyd er mwyn i chi weithio gyda’ch cleient.

 

Mae Ail-ddeffro yn holistig ac o ganlyniad yn cynnig mynediad at wasanaethau eraill gyda thîm ehangach, yn ogystal â chwnsela. Mae’r gwasanaethau hyn yn gefnogol a llawn wybodaeth. Mae’r gweinyddwyr yn gwmni arbennig a phob tro’n gefn i chi gan fod yn astud ac yn help mawr.

 

"Dw i wedi dysgu cymaint gan fy lleoliad ac mi faswn i, heb amheuaeth, annog unrhyw berson sy’n mwynhau awyrgylch gweithgar, proffesiynol ond hwylus a chefnogol, i ymgeisio.”

0 views0 comments

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page