top of page
Search

Rhedeg tros Amy: Marathon o Gariad ac Ymwybyddiaeth

Updated: Apr 1

Darllenwch pam mae Emma yn rhedeg tros Ail-ddeffro ac Amy yn Marathon Llundain 2025


Bu Marathon Llundain ar fy ’rhestr dymuniadau’ erioed – am orchest fawr ynte! Bu imi gofrestru bedair gwaith ond yn ofer felly pan welais gyfle i ymgeisio trwy Ail-ddeffro, rhaid oedd imi roi cynnig arall arni – yn enwedig gan mai elusen iechyd meddwl pobol ifainc ydyw.

 

Y Rheswm Pam Fod Hyn yn Bwysig i Mi

Diwrnod arferol ydoedd ym mis Chwefror 2015. Ar y pryd, roeddwn yn gweithio mewn meithrinfa pan alwyd fi i’r swyddfa a chlywed bod ffrind imi wedi lladd ei hun. Cofiaf eistedd yn methu dweud gair a’r byd o’m compas yn hollol aneglur. Nid wyf yn credu imi wir glywed y wybodaeth. Dychwelais yn ôl i’m gwaith ac yn sydyn daeth ysgytiad… Amy oedd fy ffrind gorau yn yr ysgol ac yn y chweched dosbarth. Yn naturiol wedi gadael ysgol, aethom ar wahân ond roedd lle arbennig gennym i’n gilydd o hyd.


Roedd gan Amy ferch fach flwydd oed. Vivienne oedd ei henw ac mae’r atgof ohoni wrth arch ei mam ddiwrnod yr angladd yn fy hunllef o hyd.


Byddai Amy yn llawn bywyd ymhob parti. Gwyddai sut i lenwi ystafell – doedd byth ddistawrwydd pan fyddai hi yno. Dweud oedd pobol – “Dwi ddim yn deall, roedd hi’n ymddangos mor hapus bob amser”. Wel, does dim gwyneb i iechyd meddwl, oes yna?


Bob blwyddyn adeg penblwydd Amy, bydd Claire (ffrind agos arall i Amy yn yr ysgol), Joe tad Amy a minnau, yn cyfarfod ger ei bedd a chodi’n gwydrau iddi. Cawsom redeg ras 10k cyntaf y Drenewydd er coffa amdani. Byddaf yn disgwyl ei gweld yn cerdded rownd y gornel. Yn wir, tydi’r ffaith ei bod wedi marw heb wir suddo mewn imi eto.


Eleni, mae’n ddeg mlynedd ers bu farw Amy felly rhyw deimlo wyf bod cael lle ar y marathon i fod i ddigwydd. Byddaf yn hapus os gall rhannu’r stori yma a chodi arian helpu hyd yn oed un person.


Symbyliad Marathon

Rydwi’n gynhyrfus i gymryd rhan yn Marathon Llundain – cyflawni rhywbeth i mi fu hunan ar ôl blwyddyn anodd. Mae’r hyfforddiant wedi bod yn llesol i’m iechyd meddwl a chorfforol. Fel y dywedais  -  AM ORCHEST YNTE!! Ond rwy’n nerfus hefyd…mae 26.2 milltir yn bellter maith! YIKES!!


Fy Symbyliad?

Profi y gallaf wneud hyn. Derbyn balchder fy nau fab hardd, fy nheulu a’m ffrindiau. Gwneud hyn i Amy, ei thad Joe a’i merch Viv. Hefyd, rwyf eisiau gwneud fy ngorau er mwyn Ail-ddeffro ac i gynyddu ymwybyddiaeth – maent yn helpu llawer o bobol ac mae hynny’n rhyfeddol!

Rwy’n lwcus o’m teulu a’m ffrindiau cefnogol sy’n fy helpu fy hyfforddiant ac yn ymuno â mi am filltiroedd – heb anghofio fy nghydymaith blewog, Otis y spaniel. 🙂




Support Emma and help her reach her £2000 goal for Rekindle via Just Giving -

 
 
 

Comments


bottom of page