top of page
Search
Writer's pictureRekindle

Marathon Llundain 2025 – Rhedwch drosom ni!

Yn galw ar bob rhedwr brwd. Oes gennych chi Farathon Llundain 2025 yn eich golwg?


Eisiau ymgymryd ag her aruthrol dros achos sy’n agos at eich calon? Wedi ysu ers talwm i daclo un o farathonau mwyaf eiconig y byd? Neu yw ‘rhedeg marathon’ yn un o’ch uchelgeisiau bywyd?

Pa beth bynnag yw eich rheswm dros eisiau cyfranogi, byddem wrth ein boddau clywed oddi wrthoch! Dim ond rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais (dolen isod) a dweud wrthon ni pam y dylech chi wisgo ein crys ar y diwrnod.

I gael rhedeg ar ein rhan, bydd rhaid i chi godi lleiafswm o £2,000. Os gallwch godi’n fwy na hynny – bendigedig! Efallai bod y targed hwnnw yn codi bach o ofn arnoch, ond cewch lawer o gymorth gan y tîm Ailddeffro. Os rhedwch chi ar ein rhain, byddwch chi’n derbyn:

  • cymorth gan ein tîm i helpu chi cyrraedd eich targed codi arian;

  • crys rhedeg yn rhad ac am ddim i chi wisgo ar ddiwrnod rasio;

  • cymorth hysbysebu a brwdfrydedd gan ein tîm cyfan


Dyddiad Marathon Llundain TCS Dydd Sul 27ain Ebrill 2025 

 

Wedi sicrhau lle yn barod? Mae dal i fod mod di chi rhedeg dros Ailddeffro a derbyn yr un gymorth a help a’r rhai sydd â lle elusennol.


I gyflwyno cais, plîs llenwch y ffurflen hon: Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r broses, cysylltwch ag Ailddeffro ar 01686 722222 neu hello@rekindle.org.uk

1 view0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page