Mynyddwr o Lanidloes i Godi Arian dros Elusen Iechyd Meddwl Lleol Ailddeffro
- Rekindle
- 2 days ago
- 2 min read
DATGANIAD I’R WASG:
Mae Marc James, o Lanidloes, wedi gosod her anferth i’w hun gan gynllunio gorffen taith gerdded ar uchder o 850km dros y Pyrenees o’r Iwerydd i Fôr y Canoldir yr haf hwn.
Rennir y daith mewn 47 cam a fydd yn para tua un diwrnod, felly yn ôl y damcaniaeth, mae disgwyl i’r daith para oddeutu 50 diwrnod, gan gynnwys ambell ddiwrnod saib haeddiannol!
Mae paratoi yn allweddol ar gyfer digwyddiad o’r fath, felly ers tua mis efallai bod y rhai sy’n cerdded bryniau’r ardal Llanidloes wedi gweld mynyddwr unig wrthi’n troedio’r llwybrau gyda’i bolion gerdded, gan gario sach llawn bagiau o gorbys, reis, a pha beth bynnag arall oedd gerllaw yn y cwpwrdd i gyfrannu at y pwysau!
Mae Marc wedi dewis gwneud y daith er budd elusen iechyd meddwl pobl ifanc lleol, Ailddeffro. Mae Ailddeffro wedi’i leoli yn y Drenewydd ac yn darparu cymorth lles ac iechyd meddwl hanfodol i bobl ifanc 16-25 oed sy’n byw yng Nghanolbarth Cymru a Gororau Sir Amwythig. Mae Ailddeffro yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n darparu cymorth amlapio ar gyfer pobl ifanc wrth iddyn nhw lywio’r bont derfysgog rhwng plentyndod ac oedolaeth. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys cwnsela, cymorth lles un-i-un (gan gwmpasu materion ymarferol megis tai, cyflogaeth, addysg, cynllunio arian, dyled, perthnasau, ac uchelgeisiau i’r dyfodol), a sesiwn galw heibio wythnosol croesawgar sy’n hwyluso ystod o weithgareddau grŵp megis coginion, crefftau, gemau, gweithdai, a mynd allan ar deithiau i wneud marchogaeth neu chwaraeon.
Dibynna Ailddeffro, a sefydlwyd yn 1997 gan ddau deulu lleol, ar roddion, codi arian cymunedol, a grantiau elusennol yn unig er mwyn aros ar agor. Dyweda’r Rheolwr Darparu Gwasanaethau, Lizzie Cockle, “Rydym yn hynod ddiolchgar bod Marc wedi dewis codi arian dros Ailddeffro wrth iddo fentro ar her ei oes. Mae mwy a mwy o alw am ein gwasanaeth, a dibynnwn ar gefnogwyr ymroddedig fel Marc sydd yn ein galluogi ariannu ein darpariaeth gwasanaethau. Dymunwn y gorau i Marc a gwnawn ddilyn ei her yn astud!”
Gellir dod o hyd i’w dudalen codi arian yma: Marc James is fundraising for Rekindle Ail-ddeffro.
Os fedrwch, plîs cefnogwch!

댓글