top of page
Search

O ddweud ‘Byth!’ i fod yn Rhedeg Marathon Llundain:Ras Un Ferch Tros Iechyd Meddwl a Ffrind Coll

Rhedodd Emma gydag angerdd a phwrpas gan gasglu cyllid hanfodol i Ail-ddeffro. Yn ei hadroddiad isod, darllenwch fel y bu i’w dewrder ei hybu ymlaen i orffen y ras.

Byddaf yn rhedeg i gadw’n heini ond roedd y syniad o redeg Marathon Llundain ymhell o’m meddwl heb sôn am gofrestru ynddi. Alla i ddim coelio fy mod wedi ei chwbwlhau erbyn hyn.


Y mwyaf o redeg a wnawn, ymhellach yr awn yn gorfforol ac yn drosiadol. Byddai’r pyst yn symud a daeth rhywbeth yn glir imi – gallwn ymgeisio am redeg tros elusen ym Marathon Llundain oherwydd y cyfleoedd a’r gwaith y mae Ail-ddeffro yn ei wneud.


Rhyw falch oeddwn na fu fy ymgais gyntaf yn llwyddiannus ond yn siomedig yr un pryd. Yna, daeth galwad ffôn ym mis Rhagfyr yn cynnig lle imi arni. Cofiaf imi feddwl “O diar, wn i ddim os gallaf rwan”. Ar ôl ychydig ddyddiau a thrafod gyda ffrindiau a’m teulu, meddyliais – rhoddwyd y cyfle yma imi, cyfle hwyrach na ddaw eto.


Allwn i ddim gwrthod am y rheswm pam yr oeddwn eisiau’r cyfle. Yn 2015, collais fy ffrind trwy hunanladdiad. Cofiaf fel ddoe pan glywais y newydd ac mae’n troi fy stumog. Byddai Amy yn llawn bywyd ymhob parti – gwyddai sut i lenwi ystafell. Dywedai rhai wrthyf “Roedd bob amser mor hapus ac yn llawn ynni”. Yr oedd ond gwn bod ganddi frwydrau i’w gwynebu ac fel y gwyddom does dim gwyneb gan iechyd meddwl.


Dyna beth dynnodd fi at Ail-ddeffro. Mae’r elusen yn agos i’m calon gan ei bod yn cynnal pobol ifanc 16-25 trwy gwnsela a chynhaliaeth. Petai Amy wedi ymestyn a derbyn y gynhaliaeth gywir, hwyrach y byddai yma heddiw.


Roedd yr hyfforddiant ar gyfer y Marathon yn galed iawn – oriau maith o redeg ac ymarfer yn y gampfa bob wythnos a hynny ar ben gweithio llawn amser a magu dau o blant. Ond, roeddwn yn ymroddedig ac yn llawn cyffro gan ddeall pwysigrwydd fy hyfforddiant. Bu wythnosau o flinder ond yn methu a chysgu, ymladd anafiadau a theimlo’n bryderus am y ‘diwnod mawr’. “Beth fydd y tywydd?” “Alla’ i ei wneud o?” “Alla i ddim” – dyma’r ‘maranoia’ ac yn wir roeddent yn un â’r enw!


Fe ddaeth y penwythnos dyngedfennol – milltiroedd wedi eu rhedeg, hyfforddiant wedi cwbwlhau, hydradiad, llwytho’r carbs. Aethom yn deulu draw i Lundain.


Ar fore’r Marathon, roedd fy nerfau yn real ond roedd elfen o gyffro ynof hefyd. Roedd y tywydd yn boeth. Cyrhaeddais fan cychwyn y ras am 9.45yb a gadael fy mag cyn disgwyl gyda rhai o’m ‘ffrindiau marathon’. Roedd yr haul yn gwenu’n danbaid a byddai’n rhaid imi addasu. Ymlaen a fi!! Cyn hir, roedd y dorf yn rhuo – y cyfan yn drydanol – clywed pobol yn gweiddi fy enw ar bob cyfle.


Fy mwriad oedd troedio’n araf i addasu i’r gwres ond erbyn Milltir 10, roeddwn yn dioddef y gwres llethol. Roedd trefnwyr y ras yn hollol barod am hyn – digonedd o ddŵr, cawodydd pibellau dŵr, rhew – y cyfan.


Nid oeddwn yn gwybod lle roedd fy nheulu a’m ffrindiau yn sefyll ond yna cefais neges gan fy ffrind gorau “Bydd yn barod am Filltir 15”. Dyna’r hwb oeddwn ei angen ac ymlaen â mi. Rhedais i’w breichiau tan grio. Rhyddhad mawr a chalondid imi ydoedd. Roeddent am fy nghyfarfod ym Milltir 21 a bu hyn yn ganolbwyntiad arall imi. Rhaid oedd ymadael ymysg y cofleidio a'r ‘caru ti’.


Rhyw hanner milltir ymhellach, dyma weld fy nheulu – Jo, tad Amy a’i ffrind ac yn bwysicach fyth, Ioan fy nghyntafanedig. Cofleidiais hwy gan grio. Wn i ddim sut i egluro’r emosiwn o weld y rhai wyf yn eu caru ac mor glwyfadwy oedd eu gadael gyda chalondid mawr, yn enwedig pan na wyddwn pa le y gwelwn nhw nesaf.


Cefais symbyliad syfrdanol hefyd o’r negesau ar fy oriawr gan ffrindiau gartref.

Anodd tros ben oedd Milltiroedd 17-20. Roedd y gwres gormesol yn cael  effaith arnaf – pobol yn llewygu o’m blaen, pobol anafus, eraill mewn blancedi yn disgwyl ambiwlans ac eraill yn cyfogi. Cofiaf imi feddwl “Emma, un droed ar ôl y llall, cymer bwyll a rheda i’r amodau, nid y dorf”. Byddai’r rhai wyf yn eu caru ar Milltir 21 a dyna lle roeddent ac yn fy mwydo â jelly babies a flapjacks.


Roedd y pum milltir nesaf yn galed iawn. Gallwn weld y terfyn ond nid oedd ddigon agos. Collais y tâp oedd yn cynnal fy mhen-glin wrth redeg dan gawodau oer ac roedd fy mhen-glin yn arw o boenus. Bu’n rhaid imi gerdded mewn mannau ond cerdded gyda phwrpas oeddwn gan gofio’r rheswm pam mod i’n rhedeg ac mor lwcus oeddwn o gael y cyfle i gael y profiad, pa mor falch ohonof fyddai fy mhlant a’r rhai wyf yn eu caru a pha mor falch oeddwn ohonof fi fy hunan – felly ymlaen â mi. Roedd diwedd y daith yn agoshau a cherdded a rhedeg oeddwn (‘jeffing’).


Dyma Big Ben felly DIM OND MILLTIR SYDD AR ÔL! Defnyddiais bob owns o gryfder oedd ar ôl gennyf i allu cyrraedd y terfyn.


Gwelais Balas Buckingham a dyma bweru tua’r terfyn. Llanwyd fi ag emosiwn o weld y llinell derfyn a gwenais o glust i glust, fy nwylo yn yr awyr gan dynnu i mewn yr awyrgylch ryfeddol a’r ffaith mod i wedi RHEDEG MARATHON GYFAN… y FI…yr un ddywedodd na allai byth redeg pellter fel hyn ond fe wnes yr union beth!!!


Diwrnod bythgofiadwy fydd yn aros am byth yn fy nghalon.


Gwnes hyn oll er mwyn Amy ond nid yn unig iddi hi ond i’r bobol ifanc sydd yn meddwl nad ydynt yn ddigon i’r byd yma – yr ydych! I’r bobol ifanc sy’n credu na allant wireddu eu breuddwydion – gallwch! Nid yw’n rhy hwyr. Gofynnwch am help, derbyniwch gefnogaeth, ymestynnwch a gwnewch uchelgeisiau. Gallwch wneud unrhywbeth os rhowch eich bryd arno.

 


Emma



Er bod Marathon Llundain wedi gorffen, nid yw’n rhy hwyr i gefnogi Emma a chynnal ei hysbryd tra mae’n adfywio!






 
 
 

Comments


bottom of page